Perllannau
Toloja, wrthi’n cynhyrchu Seidr, Sudd Afal a
Pherai Cymreig traddodiadol.
Lansiwyd
Daliadau Toloja yn 2005 ac, yn ogystal â chynhyrchu seidr, sudd afal a pherai,
mae hefyd wrthi’n plannu amgueddfa berllan â 100
o goed afalau seidr a gellyg Perai o amrywiadau Cymreig
yn unig. Mae’r ffrwythau a ddefnyddir yn ein cynnyrch
yn cael eu tyfu oll yng Nghymru ac yn ymgorffori amrywiadau
Cymreig sy’n cael eu tynnu â llaw. Ni chwistrellir
unrhyw beth arnynt ac ni ddefnyddir unrhyw gemegolion
na burum ychwanegol, sy’n egluro ein slogan 'naturiol
i ’r
craidd'.
Mae
hanfod tirwedd Prydain gyda pherllannau ar bob fferm
a thyddyn wedi dioddef dan ddwylo datblygiad a
chymhellion ariannol. Aiff peth amser heibio
cyn i’n
perllan gynhyrchu cryn dipyn o ffrwyth, ond teimlwn
yn gryf y dylem roi rhywbeth yn ôl i gefn gwlad
ar gyfer y cenedlaethau i ddod, gan gynnwys
ein tri o blant ninnau a ysbrydolodd yr enw Toloja.

|